
Mae 30,000 o anifeiliaid anhygoel yn nes nag ydych chi'n ei feddwl!
Does dim rhaid i chi deithio’n bell i wneud eich diwrnod allan nesaf yn un gwyllt - rydyn ni jyst dros y ffin! Mae cymaint i’w wneud yn y sŵ, a dim ond 20 munud mewn car ydyn ni o Wrecsam. Fe allai llewpart hela redeg yma mewn dim ond 13 munud!
Around 30,000 amazing animals are closer than you think!
You don’t have to travel far to make your next day out a wild one - we’re just over the border. There’s so much to do at the zoo, and we’re only a 20-minute drive from Wrexham. A cheetah could run here in just 13 minutes!
Calon Affrica - Heart of Africa
Camwch i Galon Affrica, profiad cyfranogol newydd yn Sŵ Caer, lle mae ysbryd y safana’n dod yn fyw. Bellach ar agor, fe allwch chi grwydro drwy ran newydd helaeth a syfrdanol o'r sŵ a dod o hyd i jiráffs, sebras, estrys a llawer o rywogaethau eiconig eraill yn byw ochr yn ochr â'i gilydd mewn un cynefin.
Step into Heart of Africa, Chester Zoo’s newest immersive experience, where the spirit of the savannah comes to life. Now open, you can wander through a breathtaking, expansive new part of the zoo where you'll find giraffes, zebras, ostriches and many other iconic species living alongside each other in one habitat.

Ein gwaith yng Nghymru - Our work in Wales
Mae ein gwaith cadwraeth yn mynd â ni ledled y byd, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael cymaint o straeon llwyddiant yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarllen am yr effaith rydym yn ei chael ymhlith bioamrywiaeth gyfoethog Cymru.
Our conservation work takes us all over the world, and we're thrilled that we have had so many success stories in Wales. Click the link below to read about the impact we're having among Wales' rich biodiversity.
